Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Y Pwyllgor Menter a Busnes

Dyfodol Masnachfraint Rheilffyrdd Cymru a'r Gororau

Tystiolaeth o Siôn Meredith – WBF 23

Annwyl Syr / Fadam

Deallaf bod Llywodraeth Cymru yn cynnal ymgynghoriad ar hyn o bryd ynglŷn â gwasanaethau rheilffyrdd yng Nghanolbarth Cymru.

Byddwn yn dadlau yn gryf bod angen gwella’r gwasanaeth rhwng Aberystwyth ac Amwythig yn sylweddol, a hynny yn bennaf drwy sicrhau bod trenau yn rhedeg bob awr. Gallaf siarad o brofiad personol, fel un sy’n byw a gweithio yn Aberystwyth, ac yn teithio yn gyson o gwmpas Canolbarth Cymru a thu hwnt. Mae taith ar y tren i Gaerdydd neu Fangor yn cymryd tua dwywaith y taith yn y car. Os bydd gennyf gyfarfod yn y Drenewydd, mae hi’n aml yn rhy anghyfleus i gymryd y trên gan mai ond dwy awr y mae nhw’n rhedeg, sy’n golygu cyrraedd neu adael yn rhy gynnar neu yn rhy hwyr fel arfer.

Byddaf yn hoff o deithio ar y trên am ddau brif reswm – mae’n well i’r amgylchfyd, a gallaf wneud gwell defnydd o’m hamser gwaith drwy weithio ar y trên. Drwy hynny gallaf fod yn llawer mwy cynhyrchiol. Ond oherwydd prinder y gwasanaeth fel y mae ar hyn o bryd, yn rhy aml ni allaf wneud y gorau ohono.

Nid yn unig dymuniad personol gen i yw hyn, ond rwy’n sicr y byddai gwella’r gwasanaeth trên yn dod â phob math o fuddiannau i Ganolbarth Cymru, o safbwynt busnes, twristiaeth a buddiannau cymdeithasol a chymunedol.

Rwyf yn gweithio i Brifysgol Aberystwyth, prif gyflogwr tref Aberystwyth, a gallaf weld y byddai gwella’r gwasanaeth trên yn hyrwyddo’r Brifysgol fel lle hygyrch. Mae hynny’n rhoi pob math o fanteision i’r rhanbarth cyfan.

Cefais brofiad o deithio ar y trên mewn sawl rhan o Brydain, a gallaf dystio o’m profiad i mai’r llinell rhwng Aberystwyth a’r Amwythig yw’r wannaf drwy Brydain i gyd. Mae’n anodd dychmygu tref arall o faint a phwysigrwydd Aberystwyth â gwasanaeth trên mor wael. Cymharer Aberystwyth a Bangor. Gallwch deithio ar y trên o Fangor i Lundain mewn ychydig dros 3 awr. Mae’r daith o Aberystwyth, sydd tua’r un pellter, os nad yn llai, yn cymryd tua 5 awr.

Gwasanaeth mwy cyson, ac os yn bosib mwy cyflym rhwng Aberystwyth a’r Amwythig yw’r flaenoriaeth yn sicr. Ond y mae angen ystyried o ddifri hefyd ail agor y lein o Aberystwyth i Gaerfyrddin. Mae hi’n gwbl hurt bod rhaid mynd drwy’r Amwythig wrth deithio ar y trên o Aberystwyth i’n prif ddinas yng Nghaerdydd – daith 4 awr ar gyfer pellter o tua 110 milltir ar y ffordd.

Rwy’n gobeithio y byddwch yn rhoi sylw i’r materion hyn.

Diolch yn fawr.

Yn gywir

Siôn Meredith